Search from various English teachers...
United Kingdom flagflynn lomas
Cofnod cyntaf yn fy nodiadur Flynn ydw i. Un o sir Gar yn wreiddiol ydw i, ond yn byw yn Henffordd bellach. Ges i fy ngeni mewn cwm bach ger Llandeilo, mewn teulu cwbl ddi-Gymraeg. Cymuned o gyn teuluoedd teithiol roeddwn ni, ond wedi ymgartrefu fan hwnnw ers y saithdegau, yn anterth y symudiad ‘hippy’. Roedd yna fwy o acennau pob gwlad arall y Deyrnas Unedig, eithrio Cymru. Wedyn, symudon ni i Henffordd i fyw, gan oedd chwant ar fy mam hala fi a fy chwaer at ysgol amgen ‘Steiner’ yr ardal, a oedd gydag enw gwell na’r un yn Sir Benfro. Doeddwn i byth yn teimlo fel un o’r bobl y sir, a byddwn i wastad yn ymweld â fy hen ffrindiau yn nol yng Nghymru, yn hytrach na chanolbwyntio ar fy mywyd newydd dros y ffin yn Lloegr. Roeddwn i hapus am un peth am y lle newydd, doedd dim rhaid i ni wneud Cymraeg fel pwnc (doeddwn i byth wedi mynd i ysgol yng Nghymru ychwaith). Doedd dim awydd arnaf i ddysgu'r iaith, gan fod yr iaith fain yn ddigon am bopeth, ac am fod pawb yng Nghymru yn siarad Saesneg hefyd. Fodd bynnag, ar ôl treulio dwy flynedd yn y brifysgol, ac wedi blino sut cymaint ar fy nghwrs, penderfynais i gael blwyddyn bant o’r brifysgol a threuliais i flwyddyn ddysgu Saesneg yn Sbaen, ond y rheswm mwyaf am pam y penderfynais i fynd i Sbaen oedd am ddysgu Sbaeneg. Dim ond drwy ddysgu iaith arall, mi ddes i wybod bod iaith yn bwysicach na dim ond ffordd o gyfathrebu, mae hi wedi ei phlethu hefyd gyda'r diwylliant a'r bobl. Drwy siarad â phobl yn Sbaen, yn enwedig gyda'r Basgiaid yng ngogledd Sbaen, sydd ganddyn nhw eu hiaith frodorol eu hunain, sylweddolais i gymaint y roeddwn i yn colli mas ohono fo drwy beidio â gallu siarad y Gymraeg, a dyna pam dechreuais i ddechrau dysgu'r Gymraeg dwy flynedd yn ôl

Corrections · 1

0

Cofnod cyntaf yn fy nodiadur

Flynn ydw i. Un o sir Gar yn wreiddiol ydw i, ond yn byw yn Henffordd bellach. Ges i fy ngeni mewn cwm bach ger Llandeilo, mewn teulu cwbl ddi-Gymraeg. Cymuned o gyn teuluoedd teithiol roeddwn ni, ond wedi ymgartrefu fan hwnnw ers y saithdegau, yn anterth y symudiad ‘hippy’. Roedd yna fwy o acennau pob gwlad arall y Deyrnas Unedig, ac eithrio Cymru.

Wedyn, symudon ni i Henffordd i fyw, gan oedd chwant ar fy mam hala fi a fy chwaer at ysgol amgen ‘Steiner’ yr ardal, a oedd gydag enw gwell na’r un yn Sir Benfro. Doeddwn i byth yn teimlo fel un o’r bobl y sir, a byddwn i wastad yn ymweld â fy hen ffrindiau yn nol ôl yng Nghymru, yn hytrach na chanolbwyntio ar fy mywyd newydd dros y ffin yn Lloegr.

Roeddwn i'n hapus am un peth am y lle newydd, doedd dim rhaid i ni wneud Cymraeg fel pwnc (doeddwn i byth wedi mynd i ysgol yng Nghymru ychwaith). Doedd dim awydd arnaf i ddysgu'r iaith, gan fod yr iaith fain yn ddigon am bopeth, ac am fod pawb yng Nghymru yn siarad Saesneg hefyd. Fodd bynnag, ar ôl treulio dwy flynedd yn y brifysgol, ac wedi blino sut cymaint ar fy nghwrs, penderfynais i gael blwyddyn bant o’r brifysgol a threuliais i flwyddyn yn dysgu Saesneg yn Sbaen, ond y rheswm mwyaf am pam y penderfynais i [neu y rheswm mwyaf dros i mi benderfynu...] mynd i Sbaen oedd am ddysgu Sbaeneg. Dim ond drwy ddysgu iaith arall, mi ddes i wybod bod iaith yn bwysicach na dim ond ffordd o gyfathrebu, mae hi wedi ei phlethu hefyd gyda'r diwylliant a'r bobl. Drwy siarad â phobl yn Sbaen, yn enwedig gyda'r Basgiaid yng ngogledd Sbaen, sydd y mae [dim "y Basgiaid" ydy goddrych y ferf o ran gramadeg, ond "eu hiaith..."] ganddyn nhw eu hiaith frodorol eu hunain, sylweddolais i gymaint y roeddwn i yn colli mas [ar fy ngholled] ohono fo drwy beidio â gallu siarad y Gymraeg, a dyna pam dechreuais i ddechrau ddysgu'r Gymraeg dwy flynedd yn ôl

Hanes diddorol iawn, a Chymraeg ardderchog, chwarae teg i ti am benderfynu dysgu'r hen iaith!


Want to progress faster?

Join this learning community and try out free exercises!

Don’t miss out on the opportunity to learn a language from the comfort of your own home. Browse our selection of experienced language tutors and enroll in your first lesson now!

Start Learning Today