Beth nesaf
Heddiw, dydw i ddim wedi bod yn gynhyrchiol iawn yn anffodus. Er es i i’r llyfrgell, lle fel arfer dw i’n ei chael hi yn haws canolbwyntio ar beth sydd ei angen arnaf i i’w wneud, mi wnes i ffeindio hi yn anodd, oherwydd cymysg o feddyliau yn trafod beth y gwnaf i ar ôl i fi orffen fy nghwrs CELTA ym Mryste fis Ionawr, ai geisio am gwrs i fynd yn athro daearyddiaeth neu ddefnyddio'r cymhwyster i ddysgu Saesneg tramor wrth i fi ddatblygu fy sgiliau mewn ieithoedd eraill.
Yn anffodus, er mae gennyf lefel uchel yn y Gymraeg, heblaw am weithio fel athro drwy’r iaith, does dim lot o swyddi ar wahân i gyfieithu, rhywbeth y byddai rhaid i fi dreulio blynyddoedd yn meistroli fy sgiliau er mwyn ei wneud. Ond pwy a ŵyr, mae popeth yn bosibl. Mae darllen yn y Gymraeg yn rhywbeth hynod o ddifyr, mwy nag ieithoedd eraill yr ydw i wedi eu hastudio. Mae ‘na rhywbeth am y strwythur, sut mae pobl yn trefnu eu meddyliau yn y Gymraeg sydd yn fy nhynnu fi at nofelau Cymraeg yn fy amser hamddenol yn fwyfwy.
Search from various English teachers...
Corrections · 0
Don’t miss out on the opportunity to learn a language from the comfort of your own home. Browse our selection of experienced language tutors and enroll in your first lesson now!
Start Learning Today
